Datblygu lles staff yn y gwaith

Mae'r brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol i staff ar bob lefel. Ewch i'r dudalen datblygu staff am fanylion sut mae cofrestru.

Sesiynau hyfforddi a datblygu mewnol pwrpasol

Mae tîm Adnoddau Dynol y brifysgol yn cyflwyno sesiynau mewnol yn rheolaidd sydd wedi eu teilwra i wahanol swyddogaethau a diddordebau, megis 'rheoli amser yn ystod cyfnodau heriol', 'sgiliau hyfforddi i reolwyr', 'rheoli lles', 'ysgrifennu cofnodion effeithiol' a llawer mwy.

Cymhelliant a mentora academaidd

Mae'r cynlluniau deuol hyn yn helpu staff i ymdrin â heriau penodol sy'n gysylltiedig â gwaith a chael cyngor, arweiniad ac anogaeth ynglŷn â’u gwaith a datblygiad eu gyrfa.

Hyfforddiant I-act

I-act yw prif raglen iechyd meddwl a lles achrededig y Deyrnas Unedig ar gyfer deall a rheoli iechyd meddwl a lles yn y gwaith. Mae'r cwrs yn defnyddio llawlyfr cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddulliau a strategaethau rhagorol a defnyddiol i hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol i staff a chydweithwyr.

Cofio Iechyd Meddwl

Mae’r pecyn e-ddysgu hwn, a ddatblygwyd gan y Charlie Waller Memorial Trust, wedi ei lunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff nad ydynt yn arbenigwyr roi cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Caiff ei argymell yn arbennig i staff y brifysgol sydd â chyfrifoldebau bugeiliol. I gyrchu'r cyfle dysgu hwn, cliciwch yma.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru

Mae’r rhaglen yma yn cael ei rede gyn fewnol gan y cynghorwyr iechyd meddwl a gelli’r llogi lle drwy’r Rhaglen Hyfforddi Staff. I staff sydd â chysylltiad uniongyrchol ag oedolion a myfyrwyr bregus sy'n dioddef oherwydd problem iechyd meddwl, mae'r cwrs hwn yn dysgu'r sgiliau effeithiol a allai wneud gwahaniaeth i rywun mewn argyfwng iechyd meddwl.

Ymateb i Ddatgeliadau o Drais Rhywiol

Mae'r cwrs hwn wedi ei lunio i gynorthwyo staff i dderbyn datgeliad o drais rhywiol gan fyfyriwr. Mae'r cwrs yn un rhyngweithiol sy'n cynnwys nifer o ffilmiau byrion, astudiaethau achos, erthyglau newyddion a gweithgareddau. Dylai gymryd tua 1-2 awr i'w wneud i gyd. Cliciwch yma i gyrchu'r cwrs hwn