Adnoddau lles meddyliol cadarnhaol

Adnoddau rhyngweithiol a chanllawiau ymarferol y brifysgol

  • Mae gwefan Gofal yn Gyntaf yn cynnwys erthyglau ar amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl yn cynnwys cadw’n heini’n feddyliol, cysgu’n braf, rheoli straen, hunan-barch, a chydbwysedd gwaith/bywyd.
  • Mae ap Zest Gofal yn Gyntaf a ddarperir gan My Possible Self, yn cynnig cyfresi o dan arweiniad a phecyn cymorth o dechnegau ac ymarferion rhyngweithiol i'ch helpu chi wneud synnwyr o broblemau, nodi’r arferion rydych chi am eu newid, ac dysgu dulliau er mwyn byw'n hapusach ac yn iachach.
  • Mae Gofalu am eich Meddwl yn cynnwys awgrymiadau a dulliau o gefnogi arferion a dulliau iechyd meddwl da i nodi ac ymdrin yn effeithiol ag achosion trallod Rhoddir cefnogaeth ymarferol i gydnabod symptomau iechyd meddwl gwael ynoch eich hun ac eraill, a chyngor arbenigol ar y camau i'w cymryd os ydych yn adnabod rhywun sy'n arddangos hunan-niweidio neu ymddygiad yn ymwneud â hunan-laddiad.
  • Mae Rheoli straen a lles yn gadarnhaol yn ganllaw ymarferol sy'n cyflwyno ystyriaethau allweddol mewn perthynas â rheoli'r pwysau arferol sy'n dod yn sgil addasu i newid.
  • Mae Straen yn y gwaith yn cyflwyno polisi straen y brifysgol ac yn darparu canllawiau ac offer hunanasesu wedi eu teilwra sy'n ymwneud â nodi a rheoli straen yn y gwaith. Mae'r adnoddau hyn yn amlinellu cyfrifoldebau rheolwyr a staff, wrth atal a lleihau straen yn y gwaith.
  • Mae’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig sesiynau myfyrio ymwybyddiaeth ofalgar am ddim. Os yw'n well gennych ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn fyw a chyda phobl eraill, gallwch hefyd ymuno ag amrywiaeth o sesiynau myfyrio’n rhad ac am ddim ar-lein ar Zoom dan ofal eu helusen gysylltiedig The Mindfulness Network, arweinir y sesiynau hyn gan athro ymwybyddiaeth ofalgar a chânt eu cynnal o leiaf unwaith yr wythnos.

Canolfannau lleol sy'n cefnogi lles

Mea Canolfan Abbey Road yn cefnogi gwell iechyd meddwl i bobl dros 18 oed yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae'r ganolfan yn cynnig gweithgareddau fel grwpiau darllen, ysgrifennu creadigol, celf, crefft, garddio yn ogystal â phrojectau gydag anifeiliaid, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael. Cewch fynediad at gwnsela, therapïau cyflenwol, cefnogaeth ar gyfer dibyniaeth ac amrywiaeth o ddulliau therapiwtig.

Mae Canolfan Merched Gogledd Cymru yn Sir Ddinbych, yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau, digwyddiadau, gweithgareddau cymdeithasol a gwirfoddoli. Mae'r ganolfan yn darparu amgylchedd diogel, anfeirniadol a phroffesiynol, i ferched yn unig rhwng 9am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os ydych eisiau dysgu mwy am y ganolfan neu ddarganfod beth sydd ar gael, ffoniwch ni ar 01745 339331 neu dywedwch helo ar  Facebook and Twitter

Podlediadau a chyflwyniadau

  • Give Me Strength with Alice Liveing beth sy'n gwneud unigolyn cryf? Mae'r awdur poblogaidd a hyfforddwr personol Alice Liveing yn cyfweld merched anghyffredin am bwysigrwydd meithrin gwytnwch meddyliol a chorfforol a sut y gall hyn ein grymuso i fyw bywydau hapusach a chryfach.
  • Mae How To Fail With Elizabeth Day Bob wythnos, mae rhywun gwahanol yn cael ei gyfweld ac yn trafod hyn a beth gwnaethant ddysgu o’i methiant ynghylch sut i lwyddo'n well.
  • Live Happy  yma ceir dwsinau o gyfweliadau ag arweinwyr meddwl seicoleg a lles cadarnhaol sy'n rhoi syniadau ac ymchwil i chi i fyw bywyd hapusach a mwy ystyrlon.
  • Mental Health Foundation amrywiaeth o bodlediadau, cyfweliadau a fideos lles, yn cynnwys pynciau ar iechyd meddwl plant, pobl ifanc, teuluoedd, wrth heneiddio, ac adnoddau ac offer atal, a llawer mwy.
  • Talks for when you feel totally burned out wedi ymlâdd? wedi blino'n lân? ddim yn gweld yn glir? Os oes angen rhywbeth bach arnoch i leddfu eich rhwystredigaeth a'ch helpu i ddod yn ôl at eich hun, dylai'r casgliad hwn o sgyrsiau helpu.
  • Past Imperfect a all digwyddiadau yn y gorffennol siapio llwyddiant yn y dyfodol? Mae colofnwyr y Times, Rachel Sylvester ac Alice Thomson yn siarad â phobl arbennig ynglŷn â sut roedd eiliadau yn eu bywydau cynnar wedi dylanwadu ar eu hunaniaethau, eu gyrfaoedd a'u hysfa i lwyddo.
  • The Happiness Lab Bydd yr athro o Yale, Dr Laurie Santos, yn eich tywys trwy'r ymchwil gwyddonol diweddaraf ac yn rhannu ambell i stori ryfeddol ac ysbrydoledig a fydd yn newid y ffordd rydych yn meddwl am hapusrwydd.
  • The Naked Professors mae’r hyfforddwr bywyd a’r awdur Ben Bidwell yn dod â sgyrsiau agored a throsglwyddadwy i chi am iechyd meddwl, meddylfryd a thwf personol. Mae'r Naked Professors yn cynrychioli'r genhedlaeth newydd o ddynion trwy drafodaethau dwfn a bregus am yr hyn sydd bwysicaf mewn bywyd a sut rydym yn teimlo mewn gwirionedd.

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi creu cyfres o gyflwyniadau i wella dealltwriaeth a ffyrdd o gefnogi lles meddyliol ac emosiynol yn effeithiol.

  • Getting a better understanding of our emotions Mae'r Athro Swales, arbenigwr rhyngwladol mewn triniaethau sy'n arbenigo mewn emosiynau, o'r Ysgol Seicoleg, yn disgrifio sut i ddeall ein emosiynau yn well. Mae hi'n cynnwys y prif 'deuluoedd' emosiwn a pham rydym yn eu profi cyn symud ymlaen i ddisgrifio pryd i weithredu ar ein hemosiynau a phryd a sut i leihau emosiynau sy'n rhy ddwys.
  • Top Tips for Good Mental Health Mae myfyrwyr Bangor, ddoe a heddiw, o'r Ysgol Seicoleg yn cynnig eu cyngor, ac yn adfyfyrio ar y strategaethau personol maent yn eu defnyddio i gefnogi eu lles meddyliol.

Saith Ffordd i Les

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod camau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i wella ein lles meddyliol. Datblygwyd  Five Ways to Wellbeing gan y New Economics Foundation yn 2008 gyda'r nod o annog pobl i feddwl am y pethau hynny mewn bywyd sy'n bwysig i'w lles ac efallai y dylid eu blaenoriaethu yn eu harferion o ddydd i ddydd.

Rydym wedi ychwanegu dwy ffordd newydd, hunanofal, a gofal am y blaned, gan ein bod yn credu bod ymarfer hunanofal yn sylfaenol i fywyd ystyrlon a chytbwys ac mae gofalu am y blaned yn gysylltiedig â lles cenedlaethau'r dyfodol a goroesiad rhywogaethau a chynefinoedd.

Rhowch gynnig arnynt - efallai y byddwch y'n teimlo'n fwy cadarnhaol a bodlon, yn gallu gwneud yn fawr o fywyd, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl eraill.

Cysylltu

Cysylltu â'r bobl o'ch cwmpas, ffrindiau, teulu, cydweithwyr, cymdogion, adref, yn y gwaith, yn yr ysgol neu yn eich cymuned leol. Ceisiwch beidio â dibynnu ar dechnoleg neu gyfryngau cymdeithasol yn unig i feithrin perthynas â rhywun. Rhowch o’ch amser, dangoswch ystyriaeth a pharch i feithrin cysylltiadau newydd neu gryfhau rhai sy’n bodoli eisoes..

Gwnewch ymarfer corff

Darganfyddwch weithgaredd corfforol rydych yn ei fwynhau. Rhowch gynnig ar weithgareddau sy'n eich helpu i ganolbwyntio ar y cysylltiad rhwng y corff a’r meddwl. Ewch allan a threulio amser ym myd natur. Darganfyddwch eich ardal leol trwy gerdded, beicio, rhedeg a nofio.

Cymerwch sylw

Byddwch yn chwilfrydig. Gofynnwch gwestiynau. Chwiliwch am bethau anarferol a phrin. Gwerthfawrogwch yr eiliad hon. Sylwch ar y tymhorau’n newid. Byddwch yn ymwybodol o'r byd o'ch cwmpas. Cydnabyddwch amherffeithrwydd bywyd a'ch meddyliau a'ch teimladau’n mynd heibio.

Daliwch ati i ddysgu

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Ailddarganfyddwch hen ddiddordeb. Gosodwch her y byddwch yn mwynhau ei chyflawni. Dysgwch rywbeth defnyddiol a fydd yn cryfhau eich meddwl neu eich corff, sgil neu ddull ymarferol newydd. Gall dysgu pethau newydd atgyfnerthu ymdeimlad o bwrpas a meithrin hunan-barch, yn ogystal â bod yn hwyl.

Rhoi

Gwnewch rywbeth caredig i ffrind neu ddieithryn heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl. Cynigiwch helpu. Gwenwch. Gwirfoddolwch eich amser. Dywedwch diolch wrth rywun. Gwrandewch yn astud ar bobl eraill. Edrychwch ar eich hun, a'ch hapusrwydd, yng nghyd-destun y gymuned ehangach.

Hunan-ofal


Byddwch yn garedig i chi eich hun Byddwch yn amyneddgar. Peidiwch â bod ofn methu. Dysgwch o bethach rydych yn eu difaru. Rhowch yr un cyngor i chi eich hun a thrin eich hun fel y byddech yn trin anwylyd neu ffrind. Mae'r rhan fwyaf o bobl mor hapus ag y maent yn penderfynu bod..

Gofalu am y blaned

Gwnewch newidiadau bach i'ch bywyd a fydd yn lleihau eich defnydd o ynni. Ailgylchwch. Ailddefnyddiwch. Dewiswch gemegau nad ydynt yn wenwynig yn y cartref a'r swyddfa. Prynwch yn foesegol ac yn gyfrifol. Dewiswch gynaliadwy. Addysgwch eich hun a helpwch eraill i ddeall pwysigrwydd a gwerth ein hadnoddau naturiol.

Adnoddau hunangymorth a gwybodaeth i gefnogi lles meddyliol

Action for Happiness mae llwybr pawb at hapusrwydd yn wahanol. Mae Action for Happiness wedi nodi 10 allwedd i fwy’n hapusach sy'n gyson gwneud bywyd yn hapusach ac phobl yn fwy bodlon.

A ydych yn gwybod os yw rhywun yn ei chael hi'n anodd? Pe bai ffrind yn teimlo'n bryderus, a fyddech yn sylwi ac yn gwybod beth i'w wneud? Gweld sut y gallech chi eu cefnogi.

Every Mind Matters yma ceir cyngor arbenigol ac awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ofalu am eich iechyd a'ch lles meddwl.

Mental Health UK Mae'n hawdd i waith fynd yn ormod, a gall y straen arwain at broblemau iechyd meddwl pellach yn y pen draw. Dysgwch ffyrdd a syniadau newydd i'ch helpu i reoli eich iechyd meddwl a'ch lles fel y gallwch fod ar eich gorau yn y gwaith

Mae Mind UK yn darparu gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, cyffuriau a thriniaethau, helpu eraill, hawliau cyfreithiol, a llawer o bynciau eraill.  

NHS Mood Zone edrychwch dros y canllawiau, adnoddau, awgrymiadau a gweithgareddau a all wella eich lles meddyliol, gan gynnwys cyngor i leihau straen, ffyrdd o gynyddu hunan-barch isel, ac ymarfer anadlu i leihau straen

Mae’r cyngor lleihau straen yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am y symptomau, yr achosion a'r triniaethau ar gyfer straen