Lles ariannol

Mae lles ariannol yn ymwneud ag ymdeimlad o ddiogelwch a theimlo bod gennych ddigon o arian i dalu eich ffordd. Mae'n ymwneud â bod â rheolaeth dros eich cyllid o ddydd i ddydd a chael y rhyddid ariannol i wneud dewisiadau sy'n eich galluogi i fwynhau bywyd.

Ochr yn ochr â chynlluniau pensiwn y brifysgol, (e.e. Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) a Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor (UPAS)) gyda chyfraniad hael gan gyflogwr, mae'r brifysgol yn cymeradwyo amrywiaeth o fuddion aberthu cyflog a buddion eraill sy'n cynnig y newid i wneud arbedion treth ac yswiriant cenedlaethol ar amrywiol bryniannau a chynlluniau.

Mae Buddion Bangor yn cynnig mwy o wybodaeth am gymhwysedd ac am sut i fanteisio ar y buddion hyn.

Adnoddau lles ariannol

Mae Cynlluniwr Cyllideb yn eich rhoi chi mewn rheolaeth dros wariant ar eich aelwyd ac yn dadansoddi eich canlyniadau i'ch helpu i reoli eich arian

Mae gwefan Gofal yn Gyntaf contains information and articles relating to bills, budgets, savings, investments, pensions, and wills, including a financial health check tool and budgeting calculator. Care first's team of Information Specialists can be contacted at 0800 174 319 to confidentially discuss any monetary or financial matters

Help gyda sgamiau cyngor ar sylweddoli, osgoi, a dod at eich hun ar ôl sgamiau.

Cyngor iechyd meddwl ac ariannol i’ch helpu i ddeall, rheoli a gwella eich problemau iechyd meddwl ac ariannol

Arian ac iechyd meddwl (MIND) gall iechyd meddwl gwael wneud hi’n anoddach ennill cyflog a rheoli arian. Yma, gallwch ddysgu mwy am drefnu eich arian, hawlio budd-daliadau pan fydd gennych broblem iechyd meddwl, delio â gwasanaethau, a gofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn poeni am arian.

National Debt Helpline tîm o gynghorwyr dyledion arbenigol yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim. Yma, ceir canllawiau, taflenni ffeithiau, offer cyllidebu a llythyrau enghreifftiol i'ch helpu chi i ysgrifennu at eich credydwyr. Llinell gymorth: 0808 808 4000 ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 8pm

Mae Stepchange yn cynnig cyngor ar ddyledion am ddim sy'n seiliedig ar asesiad cynhwysfawr o'ch sefyllfa, cymorth ymarferol, a chefnogaeth am ba mor hir bynnag y mae ei hangen arnoch.
Llinell gymorth: 0808 808 4000 ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm