Caplaniaeth a Chefnogaeth Ffydd

Os ydych yn mynd trwy gyfnod anodd yn eich bywyd ac angen rhywun i siarad am bethau, mae'r tîm Caplaniaeth yma i wrando arnoch chi, i weddïo gyda chi neu ar eich rhan, a darparu arweiniad neu fentora ysbrydol.

Mae'r tîm yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF a gellir cysylltu â hwy ar 01248 382024 neu drwy e-bost. Efallai yr hoffech ymweld â'u gwefan hefyd

Ewch i gyfarfod y Tîm Caplaniaeth a dysgu am yr hyn y gallant ei ddarparu