Sut mae'r brifysgol yn cefnogi lles meddyliol ac emosiynol myfyrwyr?

Mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr gyda materion ymarferol a phersonol sy'n gysylltiedig â bywyd prifysgol. Mae amrywiaeth o wasanaethau integredig ar gael sy’n hyrwyddo lles myfyrwyr, o reoli cyllid, datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd, ffydd a darpariaeth fugeiliol i arweiniad ar ragolygon gyrfa.

Ewch i wefan Gwasanaethau Myfyrwyr i weld yr amrywiaeth lawn o wasanaethau cefnogi.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf yn ymwneud â chefnogaeth a lles myfyrwyr.

Gyda phwy gallaf siarad os wyf yn poeni am les meddyliol myfyriwr?

Os oes gennych bryderon brys ynglŷn â lles meddyliol a/neu ddiogelwch myfyriwr, cyfeiriwch at y siart llif iechyd meddwl brys sy'n eich tywys trwy'r camau i ddod o hyd i gefnogaeth briodol ac amserol.

Mae'r Gwasanaeth Lles yn rhan o Wasanaethau Myfyrwyr. Mae'r Tîm Lles yn cynnwys cwnselwyr gyda chymwysterau proffesiynol, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl ac arbenigwyr gwybodaeth sydd â phrofiad o helpu myfyrwyr i ymdrin â phob math o broblemau ymarferol, personol ac emosiynol.

I wneud pethau'n symlach i fyfyrwyr, mae'r gwasanaethau lles a restrir isod, i gyd ar gael trwy’r un cyfeiriad e-bost wellbeingservices@bangor.ac.uk. Gellir defnyddio'r e-bost hwn hefyd os hoffai staff atgyfeirio eu pryderon am unrhyw fyfyriwr, p'un a yw'n faterion iechyd meddwl, myfyrwyr mewn trallod neu unrhyw broblemau eraill.

Mae Cwnsela Myfyrwyr, sy'n cynnwys sesiynau therapi unigol ar sail tystiolaeth, ar gael i bob myfyriwr sy'n cael anhawster neu'n teimlo eu bod yn cael eu dal yn ôl gan broblemau yn eu bywyd ac sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i ateb ar eu pennau eu hunain. Mae'r Gwasanaeth Cwnsela hefyd yn cynnig rhaglen amrywiol o weithdai a chyrsiau a gyflwynir trwy gydol y tymor gan gynnwys gweithdai 'iCan', sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, magu gwytnwch, ac amrywiaeth o gyrsiau seicogymdeithasol.

Mae'r Gwasanaeth Cwnsela yn cynnig sesiynau cymorth ar-lein rhwng 10 ac 20 munud y gellir eu harchebu ymlaen llaw. Sylwer mai pwrpas y sesiynau cefnogaeth hyn yw cynnig help, cefnogaeth a gwybodaeth, ac ni fyddant yn sesiynau cwnsela ffurfiol. Maent ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa arferol, ond dim ond ar y diwrnod y gellir eu harchebu. I archebu sesiwn, anfonwch e-bost iwellbeingservices@bangor.ac.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i drefnu amser i chi.

Mae cynghorwyr iechyd meddwl yn cefnogi myfyrwyr sy'n gwella o salwch meddwl, neu sy'n dechrau profi anawsterau iechyd meddwl neu'n wynebu argyfwng iechyd meddwl tra maent yn y brifysgol. Maent yn wahanol i gwnselwyr gan eu bod yn darparu ymyriad neu fonitro byr, ac yn cyfeirio myfyrwyr at ymyriadau clinigol, therapi neu gwnsela a all gynnig cefnogaeth arbenigol a thymor hwy. I wneud apwyntiad anfonwch e-bost iwellbeingservices@bangor.ac.uk. Fel rheol mae Cynghorwr Iechyd Meddwl Myfyrwyr ar gael rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol lle caiff pob myfyriwr ei drin ag urddas a pharch. Mae’r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr yn canolbwyntio ar weithredu arfer gorau ar draws y brifysgol wrth atal a chefnogi unrhyw fath o aflonyddu ac mae wedi ei hyfforddi'n arbennig i ymateb i bob adroddiad o drais rhywiol, aflonyddu, troseddau casineb a hiliaeth a darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Lles Myfyrwyr.

Pa gefnogaeth sydd ar gael os yw myfyriwr yn byw gydag anabledd?

Mae’r gwasanaethau anabledd yn darparu cefnogaeth ac arweiniad personol ac academaidd i bob myfyriwr sy'n byw gydag anabledd i hybu eu hannibyniaeth, gwireddu eu potensial academaidd ac i fod yn barod ac yn fwy gwydn ar gyfer gwaith a bywyd ar ôl gadael y brifysgol.

Mae cynghorwyr anabledd yn cynnig gwybodaeth am anabledd, y gefnogaeth sydd ar gael i helpu myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr gweithredol ac annibynnol. Ym mhob ysgol, ceir tiwtoriaid anabledd sy’n aelodau staff academaidd sydd hefyd yn helpu i gydlynu a gweithredu trefniadau cefnogi rhesymol a theg i fyfyrwyr ag anableddau.

Os oes gan fyfyrwyr ymholiad yn ymwneud ag anabledd neu os oes angen cyngor arnynt ar fater sy'n gysylltiedig â'r brifysgol, mae cynghorwyr anabledd ar gael am sesiynau galw heibio bob dydd Mawrth rhwng 12pm ac 1pm yn ystod y tymor.

I archebu sesiwn galw heibio unigol (tua 10 munud) anfonwch e-bost i anableddviser@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383620/01248 382032.

Mae’r Ganolfan Access yn tywys darpar fyfyrwyr trwy'r broses o wneud cais am gyllid am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a thrafod unrhyw rwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd i ddysgu a sicrhau bod cynlluniau cefnogi priodol ar waith.

Mae’r tîm dyslecsia yn cefnogi myfyrwyr gyda dyslecsia a gwahaniaethau dysgu penodol eraill, megis dyspracsia, dyscalcwlia, anhwylder diffyg sylw ac anhwylder diffyg sylw a gorfywiogrwydd. Mae'r tîm yn cefnogi datblygu sgiliau dysgu a chwblhau gofynion astudio. Mae asesiadau anffurfiol ar gael i fyfyrwyr sy'n credu y gallai fod ganddynt ddyslecsia a neu wahaniaeth dysgu penodol arall, yna gall un o'n haseswyr cymwys roi asesiad diagnostig llawn os yw'n briodol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall gwasanaethau anabledd gefnogi lles myfyrwyr, darllenwch ein cwestiynau cyffredin a Beth rydym yn ei wneud i fyfyrwyr

Gallwch hefyd anfon e-bost i’r gwasanaethau anabledd neu ffonio ar 01248 383620/382032.

Sut gall Undeb y Myfyrwyr gefnogi lles meddyliol myfyrwyr?

Undeb y Myfyrwyr yw llais y myfyrwyr a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor! Mae'r UM ar gyfer holl fyfyrwyr Bangor, ac mae dan arweiniad tîm o swyddogion sabothol etholedig ymroddedig sy'n gweithio i gyfoethogi a gwella profiad myfyrwyr. Ceir dros 60 o glybiau chwaraeon yn yr Undeb Athletau, dros 120 o wahanol gymdeithasau, a dros 50 o brojectau gwirfoddoli.

Mae ymuno â chlwb, cymdeithas neu wirfoddoli yn ffordd wych o gysylltu â phobl sy'n mwynhau diddordebau tebyg, dysgu sgiliau newydd, a chyfrannu at achos da.

Mae digwyddiadau lles UM, fel E-gŵyl a Chymorth Astudio yn darparu gweithgareddau lleihau straen i hyrwyddo lles trwy gydol y flwyddyn academaidd, yn enwedig yn ystod cyfnodau arholiadau.

Mae Cyswllt@Bangor yn broject cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo perthynas gadarnhaol gyda chyfoedion a chefnogaeth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr. Mae sesiynau galw heibio ar-lein wythnosol, bob prynhawn Mercher, gyda Chynghorwyr Iechyd Meddwl y brifysgol yn cynnig ffordd fwy hamddenol o gwrdd i siarad am bob agwedd ar les, lelihau straen neu fwynhau pwnc diddorol.

I weld yr amrywiaeth lawn o glybiau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr