Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau

Ysmygu a defnyddio tybaco

Mae polisi ysmygu  y brifysgol yn sefydlu amgylchedd di-fwg i amddiffyn iechyd y myfyrwyr, gweithwyr ac ymwelwyr. Mae dwy ardal ysmygu dynodedig yng nghyffiniau Prif Adeilad y Brifysgol.

Gallwch lawrlwytho'r arwydd ysmygu yma i atgoffa aelodau'r brifysgol a'r cyhoedd na chaniateir ysmygu o fewn pum metr i'ch adeilad

Help a chefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn un o'r camau pwysicaf y gall pobl eu cymryd i wella eu hiechyd. Gall y buddion iechyd o roi'r gorau i ysmygu helpu'r rhan fwyaf o brif rannau ein corff, o'n hymennydd i'n DNA, ac mae'n lleihau'r risg o lawer o effeithiau andwyol ar iechyd, gan gynnwys canlyniadau iechyd atgenhedlol gwael, clefydau cardiofasgwlar a chanser.

Nid yw'n hawdd rhoi'r gorau i ysmygu, mae bron pawb yn cael anawsterau ar hyd y ffordd, ond gellir ei wneud.

Efallai yr hoffai staff y brifysgol ymweld â'r wefan Care first lifestyle sy'n amlinellu'r cyfnodau a'r camau allweddol i helpu i newid meddwl ac ymddygiad mewn perthynas ag ysmygu.

Help Me Quit  cewch wybodaeth yma  am roi'r gorau i ysmygu a sut i gael cefnogaeth am ddim os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, eisiau rhoi'r gorau i ysmygu.
Ffôn: 0800 085 2219

Mae Byw’n Dda GIG  yn cynnig camau ymarferol, cyflym a syml y gallwch eu cymryd ar unwaith i roi'r gorau i ysmygu.

Mae Quit yn elusen annibynnol sydd â'r nod o achub bywydau trwy helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi.

Ffôn: 0800 00 22 00 i gael cyngor am ddim, personol, ar yr un diwrnod gan gwnselwyr hyfforddedig. 

Mae Rehab Guide yn darparu gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau gwybodaeth yng Nghymru.

Smokefree gallwch gael gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth yma i'ch helpu i baratoi i roi'r gorau i dybaco a rhoi'r gorau i ysmygu yn llwyddiannus.

Bydd y Smoking Calculator yn eich helpu i weithio allan faint mae eich ysmygu yn ei gostio i chi a faint o arian y gallech fod yn ei arbed.

Yfed yn ddiogel ac yn gyfrifol

Mae gan alcohol swyddogaeth gyfarwydd ym mywydau llawer o bobl, defnyddir i ddathlu, i gymdeithasu, i gysuro, i ryddhau straen neu i ymlacio. Caiff alcohol ei ystyried a’i weld yn wahanol i gyffuriau eraill; mae'n gyfreithiol ac yn dderbyniol yn gymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n un o'r sylweddau sy'n cael ei gam-drin fwyaf a gall ei gamddefnyddio gael effeithiau niweidiol, cronig sy'n peryglu bywyd; yn y DU mae un person bob awr yn marw oherwydd alcohol.

Princs, cael sesh cyn mynd allan. Mae llawer o fyfyrwyr yn gyfarwydd â’r termau hyn. A yw yfed gormod yn costio mwy i chi na’ch urddas yn unig?

Gall yfed gormod ac yn rhy gyflym arwain at fwy o ddamweiniau, camfarnu sefyllfaoedd peryglus, colli hunanreolaeth, a mwy o ymosodiadau rhywiol a chorfforol. Gall yr adnodd hunanasesu alcohol Drinkaware eich helpu i adnabod a yw faint rydych yn ei yfed yn beryglus iawn i’ch iechyd.

Morning After Calculator  mae'n cymryd llawer mwy o amser nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl i alcohol fynd trwy'r corff. Cewch wybod pryd y bydd hi’n ddiogel i chi yrru'r bore wedyn.

How to protect your drink from being spiked ydych chi’n poeni y gall eich diod gael ei sbeicio pan fyddwch allan ryw noson? Dysgwch sut i gadw'ch diod yn ddiogel a gwybod pa symptomau i edrych amdanynt os ydych yn  meddwl y gallech fod wedi'ch sbeicio.

Ym mywyd myfyrwyr, mae gweithgaredd cymdeithasol yn aml yn canolbwyntio ar alcohol. Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cyngor i fyfyrwyr ar sut i fwynhau nosweithiau allan (neu mewn) sy'n cynnwys alcohol a ffyrdd i edrych ar ôl eich hun ac eraill.

Bob blwyddyn mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal digwyddiad cwrdd a chymdeithasu yn ystod yr wythnos groeso. Mae Cwrdd a Chymdeithasu yn ddigwyddiad di-alcohol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddianc o'r diwylliant yfed a chwrdd â myfyrwyr tebyg dros luniaeth a diodydd ysgafn.

Yn poeni am eich defnydd o alcohol neu gyffuriau?

Bydd defnyddio'r rhan fwyaf o sylweddau yn cynhyrchu arwyddion a symptomau amlwg, gall y rhain gynnwys symptomau corfforol neu ymddygiadol, y ddau yn fwyaf tebygol. Bydd Sut mae gwybod a yw rhywun yn defnyddio cyffuriau yn eich helpu i ddysgu adnabod arwyddion corfforol neu ymddygiadol defnyddio cyffuriau a gall helpu i atal y broblem rhag datblygu ymhellach

Ar gyfer myfyrwyr yr ydych yn poeni am unrhyw agweddau ar eu defnydd o gyffuriau neu alcohol, mae'r Tîm Lles yn gallu cyfeirio myfyrwyr at gefnogaeth briodol a ddarperir, gan gynnwys cwnsela myfyrwyr.

Ar gyfer staff a hoffai gefnogaeth gyfrinachol a chyngor ar faterion yn ymwneud â defnyddio cyffuriau neu alcohol, mae cwnsela Care first  ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae gwefan Care First lifestyle hefyd yn darparu adnodd hunanasesu i staff asesu'r rhan y mae alcohol yn ei chwarae yn eu bywyd.

Os ydych yn poeni bod gennych chi neu rywun sy’n bwysig i chi broblem, mae cefnogaeth ar gael. Mae'r cysylltiadau isod â sefydliadau a llinellau cymorth lleol a chenedlaethol yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol am ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Llinellau cymorth ac elusennau i gael cefnogaeth a chyngor

Mae Alcoholics Anonymous yn ymwneud yn llwyr ag adferiad personol a sobrwydd parhaus alcoholigion unigol sy'n troi at y gymrodoriaeth am help.

Llinell gymorth: 0800 9177 650

E-bost:  help@aamail.org

Mae Al-Anon yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau sy’n cael eu heffeithio gan faint mae rhywun arall yn ei yfed.

Mae AGRO (Sefydliad Adfer Ynys Môn a Gwynedd) yn fudiad gwirfoddol a gaiff ei redeg gan bobl sy’n adfer ar gyfer pobl sy’n adfer. Mae AGRO yn hyrwyddo adfer o alcohol a phroblemau cyffuriau eraill trwy weithgareddau, cefnogi teuluoedd, codi ymwybyddiaeth, chwalu stigma.

Mae Alcohol Change yn elusen alcohol flaenllaw yn y DU ac mae'n cynnig help a chefnogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am yr ymchwil a’r polisiau diweddaraf ac amrywiaeth o adnoddau rhyngweithiol i wirio'ch yfed a dysgu mwy am alcohol.

CAIS (Cyngor Alcohol Information Services) yn elusen leol sy'n helpu pobl yng Nghymru sy'n cael problemau gyda bod yn gaeth i sylweddau, iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth, yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Gallwch gyfeirio'ch hun at CAIS yn gyfrinachol trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein 

Ffôn: 0345 06 121 12, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm.

Mae Drinkaware yn darparu cyngor annibynnol am alcohol, cysylltiadau cefnogaeth ac adnoddau defnyddiol i helpu pobl i wneud dewisiadau gwell am eu hyfed.

Kaleidoscope Gogledd Cymru Mae Dechrau Newydd (New Start) yn wasanaeth cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau integredig, sy'n gweithredu yn Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, a Wrecsam.

Maent yn darparu cefnogaeth seicogymdeithasol ar sail tystiolaeth i helpu pobl i dorri'r cylch o droseddu a defnyddio cyffuriau, adeiladu gwytnwch, a sicrhau sefydlogrwydd wrth wella.

Ffôn: 01492 556 776

Mae’r National Association for Children of Alcoholics (NACOA) yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bawb sy’n cael eu heffeithio gan faint mae rhiant yn ei yfed

Ffôn:  0800 358 3456

E-bost:  helpline@nacoa.org.uk

Mae GIG Byw yn Dda yn darparu cefnogaeth ar leihau faint rydych yn ei yfed, lle i gael cefnogaeth gydag alcohol a sut i ofalu am rywun sydd â phroblem yfed.

Yn Talk to Frank gallwch ddysgu popeth rydych angen ei wybod am gyffuriau, eu heffeithiau, a'r gyfraith. Ewch iTalk to Frank i gael ffeithiau, cefnogaeth a chyngor ar gyffuriau ac alcohol.

Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru yn cyfeirio pobl at wasanaethau lleol a rhanbarthol, yn darparu help a chyngor i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gwybodaeth a chymorth mewn perthynas â chyffuriau ac alcohol. Mae llinell gymorth ddwyieithog am ddim ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Ffôn 0808 808 2234 neu anfon y neges destun DAN i 81066

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?