Cwnsela tymor byr
SilverCloud
Gall pobl ledled Cymru, sy'n dioddef o bryder, iselder ysbryd neu straen ysgafn i gymedrol, gael mynediad at therapi ar-lein am ddim heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu. Mae SilverCloud yn lwyfan therapi ar-lein sy'n defnyddio dulliau a brofwyd fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd maent yn meddwl ac ymddwyn.
Gallwch ddewis o un o 17 o raglenni iechyd meddwl a lles ar-lein i'w cwblhau ar eich cyflymder eich hun dros gyfnod o 12 wythnos. Mae’r dewisiadau yn cynnwys cymorth gyda phryder, iselder ysbryd, straen, cwsg a phryderon ariannol.
Cliciwch yma i ddarllen mwy
Cwnsela Gofal yn Gyntaf
Mae Gofal yn Gyntaf, rhaglen gymorth i staff y brifysgol, yn darparu cwnsela tymor byr cyfrinachol gan gwnselwyr â chymwysterau proffesiynol, wedi eu hachredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Mae mynediad uniongyrchol ac yn syth bin at gwnsela adros y ffôn neu ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Cliciwch yma i ddarllen mwy
Cwnsela RCS Cymru
Os ydych i ffwrdd o’ch gwaith yn sâl, neu'n cael trafferth yn y gwaith, mae RCS Cymru yn darparu mynediad cyflym i amrywiaeth o therapïau siarad un i un am ddim i'ch helpu chi i reoli straen a meithrin gwytnwch, lleihau pryder neu ddelio â newidiadau yn y gwaith.
Cliciwch yma i ddarllen mwy