Iechyd personol a rhywiol a pherthynas â phobl eraill

Cyngor a phrofion iechyd rhywiol

Meddygfa Bodnant

Mae'r Nyrs Iechyd Myfyrwyr yn rhoi gwasanaeth cynllunio teulu ym Meddygfa Bodnant a gall roi cyngor ar wahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu, darparu'r bilsen atal cenhedlu neu’r bilsen atal cenhedlu brys a gweinyddu profion ceg y groth. Gwnewch apwyntiad gyda'r Nyrs Iechyd Myfyrwyr trwy ffonio 01248 364492. I gael rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud ag iechyd rhywiol myfyrwyr a chynllunio teulu ewch i wefan y Gwasanaethau Myfyrwyr

Frisky Wales

Gall staff a myfyrwyr y brifysgol ymweld â Frisky Wales. Yma gallwch archebu citiau profi cartref, gan ddarparu gwasanaeth syml, cyfrinachol a gofalus i chi os ydych yn poeni eich bod wedi dal haint a drosglwyddir yn rhywiol neu os hoffech gael archwiliad. Mae Frisky Wales hefyd yn cynnig cyngor ar amrywiaeth o faterion iechyd rhywiol a chysylltiedig, fel cael hyd i’r dull atal cenhedlu sy’n iawn i chi a gwasanaethau gwybodaeth a chefnogaeth gyda beichiogrwydd heb ei gynllunio.

Uned Menai, Ysbyty Gwynedd

Mae clinig iechyd rhywiol lleol Bangor wedi ei leoli yn Ysbyty Gwynedd ac mae’n cynnig nifer o wahanol wasanaethau cyfrinachol am ddim. I'r rhai sydd eisiau defnyddio’r gwasanaethau iechyd rhywiol, cysylltwch â'r llinell gymorth ar 01248 384054, mae’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am ac 11.30am, i gael asesiad dros y ffôn. Darllenwch y wybodaeth bwysig i gleifion newydd.

Pa ddull atal cenhedlu sy'n iawn i mi?


Mae dros 15 math o ddulliau atal cenhedlu ar gael yn y DU. Cewch wybod am y gwahanol ddulliau sydd ar gael yn y GIG, ynghyd â ble i'w cael a sut i benderfynu pa ddull a allai weithio orau i chi.

Byw’n Dda GIG yma gallwch ddysgu sut mae gwahanol ddulliau atal cenhedlu yn gweithio, pwy all eu defnyddio a sgil-effeithiau posibl.
Mae’r Dewisiadau Atal Cenhedlu yn darparu gwybodaeth onest i helpu i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision rhwng gwahanol ddulliau atal cenhedlu.

Mae SEXwise yma i roi cyngor gonest i chi am ddulliau atal cenhedlu, beichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Aflonyddu rhywiol

Nid yw'r brifysgol yn dioddef unrhyw fath o aflonyddu neu erledigaeth ac mae'n cymryd pob digwyddiad o ddifrif. Os byddwch yn profi unrhyw fath o drais rhywiol neu aflonyddu, gallwn gynnig lle diogel a chyfrinachol i chi, lle na chewch eich barnu, lle gellir siarad am beth sydd wedi digwydd a’ch cefnogi i symud ymlaen ym mha bynnag ffordd y teimlwch sydd orau i chi.

Mae'r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr wedi'i hyfforddi'n arbennig i ymateb i adroddiadau am drais rhywiol, aflonyddu a throseddau casineb a gall roi cyngor a chefnogaeth arbenigol i chi.Os ydych chi'n fyfyriwr ac wedi profi digwyddiad o drais rhywiol neu aflonyddu, cysylltwch â Helen Munro

E-bost: h.munro@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 388021

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddatgelu digwyddiadau o drais rhywiol neu aflonyddu ar wefan Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae Gwasanaethau Myfyrwyr hefyd yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant i gefnogi staff y brifysgol i ymateb yn effeithiol i roi gwybod am ddigwyddiadau a deall beth yw ystyr trais rhywiol, cydsyniad ac aflonyddu.

Nod yr ymgyrch Dim Tir Llwyd a gaiff ei rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr, yw hyrwyddo dealltwriaeth am beth yn union yw aflonyddu rhywiol, a lle gallwch ddod o hyd i help a chefnogaeth os ydych chi, neu ffrind, wedi ei brofi. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein hyfforddiant ar-lein i wyliedyddion, a fydd yn cynnig arweiniad ar sut i ymdrin â sefyllfaoedd pan fyddwch yn gweld achosion o aflonyddu yn digwydd

Ewch i dudalen Cyngor a Chefnogaeth y Gwasanaethau Myfyrwyr i weld rhestr o elusennau a llinellau cymorth lleol a chenedlaethol.

Perthynas bersonol a rhyngbersonol gyda phobl eraill

Care first lifestyle yn cyflwyno sgiliau i helpu i gynnal perthynas â nifer o bobl yn ystod ein bywyd, ac yn cynnig cyngor ar achosion o ysgariad, cam-drin domestig, neu deuluoedd yn chwalu. Mae Cynghorwyr ar gael 24/7 trwy'r linell gymorth dros y ffôn ac ar-lein i drafod yn gyfrinachol unrhyw faterion perthynol gyda staff y brifysgol.

Ar gyfer myfyrwyr sy'n poeni neu'n bryderus am berthynas gyda rhywun arall a hoffent gael ychydig o gyngor, gall y Tîm Lles gyfeirio myfyrwyr at y cymorth briodol a ddarperir gan gynnwys cwnsela myfyrwyr.

The University has an rwydwaith LHDT + (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws, a Mwy) ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-radd. Os hoffech gael cefnogaeth, gwybodaeth, neu sgwrs, cysylltwch â ni. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal cymdeithas LHDT+ ac mae croeso i unrhyw un ymuno, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol neu fynegiant rhywedd ac mae’n cynnal gwahanol ddigwyddiadau ac yn cydweithredu â chymdeithasau eraill i drefnu a chynnal ymgyrchoedd.

Ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth

Brene Brown sut y gall bregusrwydd wella ein bywydau?

Codependency: What’s It All About? Caiff hunan-barch iach ei greu o fewn unigolion sy'n gwybod bod eu gwerth cynhenid gystal ag un pobl eraill

CoDA UK Mae Co-Dependents Anonymous yn gymrodoriaeth o ddynion a merched a'i phwrpas cyffredin yw datblygu perthynas iach â phobl eraill. Yr unig ofyniad i fod yn aelod yw eich bod eisiau cael perthynas iach a chariadus gyda phobl eraill

National Association for People Abused in Childhood (NAPAC) - os ydych yn oedolyn sydd wedi goroesi unrhyw fath o gam-drin plant, gall NAPAC roi cefnogaeth i chi a’ch cyfeirio ar y llwybr at adferiad.

Relate p'un a ydych mewn perthynas newydd, mewn perthynas hirdymor, neu ddim mewn perthynas o gwbl, gall Relate eich cefnogi trwy argyfyngau mawr mewn perthynas â phobl eraill a materion llai sydd efallai'n eich gwneud yn anhapus.

Hunan-dosturimae hunan-dosturi yn ffordd o ymwneud â ni'n hunain. Dysgwch am yr amrywiaeth o arferion ac ymarferion hunan-dosturi dan arweiniad

Mae The Couple Connection yn cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim ynglŷn â chynnal perthynas gyda phobl eraill, gan helpu cyplau, teuluoedd a rhieni i ddelio â phroblemau cynnal perthynas.

Cefnogaeth ar ôl profedigaeth

Gall marwolaeth rhywun annwyl ddigwydd ar unrhyw adeg ac mae'n debyg mai dyma'r ffarwelio mwyaf poenus y mae bodau dynol yn ei brofi - gall fod yn rhywbeth y mae pobl yn barod amdano neu gall fod yn sydyn iawn. Ar ryw adeg yn ein bywydau, rydym i gyd yn wynebu poen profedigaeth.

Gall staff y brifysgol siarad yn gyfrinachol â chwnselydd Care first a all roi arweiniad ar y materion ymarferol y mae'n rhaid delio â nhw pan fydd rhywun yn marw a'ch cynghori wrth ymdopi â galar.

Mae'r Tîm Lles Myfyrwyr yma i ddarparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i fyfyrwyr alaru yn eu ffordd eu hunain a rheoli unrhyw absenoldebau wedi eu cynllunio o'u hastudiaethau.

Gall y Chaplaincy Team ym Mangor weddïo drosoch chi neu gyda chi, bod yn glust i wrando a chynnig cyngor ar faterion ymarferol. Daw aelodau Tîm y Gaplaniaeth o amrywiaeth o wahanol enwadau Cristnogol a chefndiroedd Mwslimaidd, Iddewig, Hindŵaidd a Bwdhaidd. Fodd bynnag, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag arweinydd lleol o gymuned ffydd arall os ydych yn dymuno.  

Ataloss yw gwefan cyfeirio'r DU ar gyfer pobl mewn profedigaeth, gan sicrhau bod ganddynt fynediad i'r wybodaeth a'r gwasanaethau sy'n briodol i'w colled.

Cruse Bereavement Care mae galar yn broses naturiol, ond gall fod yn ddinistriol. Gall Cruse Bereavement eich cefnogi ar ôl i rywun agos atoch chi farw.

Mae Winston's Wish yn cefnogi plant a phobl ifanc ar ôl marwolaeth rhiant neu frawd neu chwaer.

Y Menopos  

Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi staff sy'n mynd trwy'r menopos; rydym yn cydnabod bod symptomau gwanychol y menopos yn effeithio ar nifer o staff o ran eu cysur a'u perfformiad yn y gwaith.
Trwy greu amgylchedd gweithle agored ac ystyriol, rydym eisiau annog staff cefnogi i siarad yn onest am sut mae eu symptomau menopos yn effeithio arnyn nhw a'u gwaith.
Bydd pob merch yn profi'r menopos yn wahanol. Ein nod yw darparu'r gefnogaeth ymarferol a'r addasiadau i'r gweithle sy'n adlewyrchu anghenion unigol ac amgylchiadau personol, a chefnogi staff i barhau i fwynhau ac elwa o'u gwaith.

Beth yw'r menopos?

Mae'r menopos yn rhan arferol, naturiol o'r cylch bywyd, ac mae'n digwydd pan fydd merch yn stopio cael mislif ac nid ydynt bellach yn gallu cael plant yn fiolegol. Mae'n broses raddol sy'n digwydd dros fisoedd neu flynyddoedd, fel rheol mae’n digwydd rhwng 45 a 55 oed, sef y grŵp oedran pan fydd merched hefyd yn fwyaf tebygol o symud i swyddi uwch neu arweinyddiaeth. Yn y DU, yr oedran cyfartalog i gyrraedd y menopos yw 51.

Merched dros 50 oed yw'r demograffig gweithlu sy'n tyfu gyflymaf, a bydd y mwyafrif yn mynd trwy'r cyfnod pontio menopos yn ystod eu bywydau gwaith. Am bob deg merch sy'n profi symptomau menopos, dywed chwech ei fod yn cael effaith negyddol ar eu gwaith, gan nodi methu â chanolbwyntio, blinder, cof gwael, iselder ysbryd, hwyliau isel, llai o hyder, teimlo’n gysglyd, ac yn enwedig pyliau o wres fel ffactorau sy'n cyfrannu. Gyda'r gefnogaeth gywir, nid oes angen i ferched oedi eu gyrfa yn ystod y cyfnod pontio naturiol hwn.

Mae'r fideo hwn yn rhannu ffeithiau a ffigurau ar y menopos sy'n ddefnyddiol i'r rhai sy'n byw gyda'r menopos a rheolwyr llinell sy'n ceisio bod yn gefnogol.

Ble alla i gael cefnogaeth?

Ystyriwch siarad â'ch meddyg teulu os oes gennych symptomau’r menopos sy'n eich poeni neu os ydych chi'n profi symptomau'r menopos cyn 45 oed. Gall eich meddyg teulu gynnig triniaethau ac awgrymu newidiadau i'ch ffordd o fyw i helpu i reoli symptomau.

Gall siarad â'ch rheolwr llinell am eich symptomau eich helpu. Mae'r Cynllun Iechyd yn y Gwaith - Menopos/Perimenopos yn fan cychwyn defnyddiol i ystyried y gefnogaeth bresennol sydd mewn lle a sut y gellir gwella hyn, megis awyru ychwanegol, gweithio hyblyg, neu lai o dasgau â llaw i helpu i leddfu poenau yn y cyhyrau a phoen yn y cymalau. Os nad ydych yn teimlo'n gyffyrddus yn siarad â'ch rheolwr llinell, ystyriwch siarad â rhywun arall a all gynnig cefnogaeth, fel aelod o staff adnoddau dynol neu reolwr arall yn eich adran.

Gall staff gyfeirio eu hunain at Iechyd Galwedigaethol i nodi newidiadau neu addasiadau priodol yn y gweithle a all gefnogi amgylchedd gwaith corfforol a seicogymdeithasol mwy cyfforddus.

Mae cefnogaeth gyfrinachol i staff ar gael trwy gwnsela Care first sy'n darparu lle diogel i ystyried eich taith bersonol drwy'r menopos ac ystyried ffyrdd i ddelio â'ch symptomau sy'n peri gofid i chi a datblygu strategaethau ymdopi.

Menopos yn y gweithle

Andrea Berchowitz, cyd-sylfaenydd yn Vira Health, Ted Talk yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i greu diwylliant gwaith sy'n gyfeillgar i'r menopos sy'n cefnogi tegwch o ran rhywedd a chadw amrywiaeth yn y gweithle.

Mae CIPD wedi datblygu canllawiau ar gyfer timau adnoddau dynol a rheolwyr llinell ar greu diwylliannau agored a chefnogol i helpu pobl trwy'r menopos a chwalu stigma..

Faculty of Occupational Medicine provides guidance on menopause and the workplace.

Ffynonellau arweiniad a chyngor

Mae Henpicked yn llawn o wybodaeth arbenigol, adnoddau defnyddiol, awgrymiadau da, a dealltwriaeth o hanesion merched. Cewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad iawn i chi.

Yn Menopausematters cewch wybodaeth yma am yr hyn sy'n digwydd wrth arwain at y menopos, yn ystod ac ar ôl y menopos, beth all y canlyniadau fod, beth allwch ei wneud i helpu a pha driniaethau sydd ar gael

My Menopause Doctor yn y gyfres hon o bodlediadau, mae Dr Louise Newson, ei chydweithwyr, a gwesteion arbenigol, yn trafod amrywiaeth eang o bynciau sy'n gysylltiedig â’r menopos i roi gwybodaeth a chyngor cyfannol, diduedd, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i'ch helpu chi neu anwylyd i reoli'r symptomau a heriau'r menopos a'r perimenopos.

Mae’r Canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE explains how your GP will determine what types of treatments and interventions they can offer you.

Mae’r GIG yn darparu trosolwg o’r menopos, y symptomau, ac opsiynau o ran triniaeth.

Mae The Menopause Exchange yn rhoi cyngor annibynnol am y menopos, cyfnod canol oed ac iechyd ar ôl-menopos.

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynaecolegwyr  yn trafod y pynciau y mae merched wedi dweud sy’n bwysig yn ystod y cyfnod hwn yn eu bywyd ac yn cyfeirio at adnoddau i gefnogi hunanofal a sgyrsiau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae Women’s Health Concern (WHC) yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, annibynnol i gynghori, cysuro ac addysgu merched o bob oed am eu pryderon iechyd gynaecolegol a rhywiol, lles a ffordd o fyw.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?