Gweithgareddau sy'n cyfrannu at les

  • Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau nos mewn pum iaith, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg a Tsieinëeg (Mandarin). Mae cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal â phobl allanol..
  • Os ydych eisiau dysgu Cymraeg neu wella eich Cymraeg, mae'r brifysgol yn darparu llawer o gyfleoedd i staff ac i alluoedd amrywiol, ddysgu a defnyddio'r Gymraeg mewn amrywiol sefyllfaoedd, yn y gwaith ac yn gymdeithasol.
  • Mae croeso i staff a myfyrwyr ymuno r chorau a cherddorfa symffoni’r brifysgol. Mae Corws Symffoni Prifysgol Bangor yn gôr mawr SATB, sy'n cynnwys staff a myfyrwyr o bob rhan o'r brifysgol, a chantorion o'r gymuned leol. Cerddorfa Symffoni’r brifysgol yw prif gerddorfa lawn gogledd Cymru, ac mae ei haelodau’n dod o blith myfyrwyr a staff ar draws y brifysgol, ynghyd â’r offerynwyr gorau yn yr ardal gyfagos.
  • Mae’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig sesiynau myfyrio ymwybyddiaeth ofalgar am ddim. Os yw'n well gennych ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn fyw a chyda phobl eraill, gallwch hefyd ymuno ag amrywiaeth o sesiynau myfyrio’n rhad ac am ddim ar-lein ar Zoom dan ofal eu helusen gysylltiedig The Mindfulness Network, arweinir y sesiynau hyn gan athro ymwybyddiaeth ofalgar a chânt eu cynnal o leiaf unwaith yr wythnos.
  • Sefydlwyd Grŵp Adar Bangor, sydd â chysylltiadau â Phrifysgol Bangor, 70 mlynedd yn ôl. Mae'n agored i staff, myfyrwyr a'r cyhoedd (yn rhad ac am ddim) ac yn cynnal amrywiaeth ragorol o ddarlithoedd yn ogystal â theithiau maes. Mae'r Grŵp Adar yn cwrdd ar nos Fercher am 7.30pm yn ystod y tymor yn Ystafell 101, Y Ganolfan Rheolaeth, Ffordd y Coleg. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i bangorbirdgroup@gmail.com
  • Mae gan y brifysgol amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do ac awyr agored ar draws pedwar safle. Ewch i'n tudalen Gweithgaredd Corfforol i weld sut i gadw’n heini ym Mangor.
  • Mae Gardd Fotaneg Treborth yn 18 hectar ar lannau'r Fenai ac mae wedi bod ym meddiant Prifysgol Bangor ers 1960. Mae'r gerddi yn agored yn ystod oriau'r dydd. Mae’r tai gwydr ar agor yn ystod digwyddiadau a diwrnodau gwirfoddoli.

Rhowch wybod i ni a oes unrhyw ddigwyddiadau, grwpiau neu rwydweithiau lleol yr hoffech eu cynnwys ar y dudalen hon. Gall y rhain fod yn gymorth i ffurfio cysylltiadau ag eraill, annog pobl i dreulio amser yn yr awyr agored, meithrin sgiliau newydd, rhoi i eraill, neu hybu lles mewn ffyrdd creadigol. Anfonwch e-bost at dlwilliams@bangor.ac.uk gyda'ch awgrymiadau.