Cynnal a chadw’r beic

Mae Cycling UK wedi cynhyrchu pum arweinlyfr am gynnal a chadw beiciau. Gallwch eu lawrlwytho i’ch ffôn er mwyn troi atynt lle bynnag y boch.

Mae’r ap The Bicycle Maintenance Guide app yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch a mwy i gynnal a chadw ac atgyweirio eich beic. Mae'n cynnwys 36 o fideos a dros 4 awr o luniau, 100+ o ddelweddau, a dros 100 o adrannau. Mae'n hawdd defnyddio’r ap i lywio at nam penodol neu atgyweiriad sydd ei angen ar y beic. Gwneir y fideos gan fecanig beiciau proffesiynol cyfredol ac mae’r deunydd yn gywir, yn addysgiadol ac yn berthnasol.

Mae The Cyclist yn darparu lluniau’n ganllawiau i gynnal a chadw beic ffordd fesul cam i'ch helpu chi fynd yn ôl ar y ffordd, gan gynnwys sut mae glanhau cadwyn y beic heb ei thynnu ac addasu’r derailleur blaen.

Mae'n syniad da bwrw golwg dros y beic yn rheolaidd cyn mynd allan, a gallwch wneud llawer o bethau drosoch chi’ch hun.

Gofal am y Brêcs

Bydd y tiwtorial hwn yn eich dysgu chi sut mae diagnosio problemau’r brêcs, a sut mae gosod neu symud brêc caliper..

Gofal am y Gadwyn

Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut mae iro'r gadwyn, mesur traul y gadwynrhoi cadwyn newydd ar y beic a sut mae cysylltu and thorri cadwyn.


Gwirio Olwyn

Bydd y tiwtorial hwn yn eich dysgu chi sut mae gwirio ymyl olwyn i weld a yw’n driw, a sut mae  sythu olwyn a blygodd.

Trwsio Pynjar

Bydd y tiwtorial hwn yn eich dysgu sut mae tynnu teiar, canfod ble mae’r pynjarrhoi patsh ar y tiwb mewnol rhoi gwynt yn nheiar y beic.

Iro’r Beic

Bydd y tiwtorial hwn yn eich dysgu sut mae iro'r gadwyny rhannau symudol, a'r ceblau ar y beic.

Gosod Cebl y Brêc

Bydd y tiwtorial hwn yn eich dysgu chi sut mae gosod cebl y brêc ar y beic.