Llwybrau seiclo a beicio mynydd y gogledd

Nid oes prinder apiau ar gyfer seiclwyr. Mi wnaiff yr apiau seiclo gorau eich helpu chi gynllunio siwrnai, ymarfer yn effeithiol, trwsio'r beic, a llawer mwy. Mae 4Bike yn argymell 18 o'r apiau seiclo mwyaf defnyddiol ar gyfer Dyfeisiau iPhone ac Android gan gynnwys offer ymarfer dadansoddol cymhleth ac apiau cymdeithasol symlach ac adnoddau llywio defnyddiol.

Seiclo i mewn i Fangor ac o amgylch Bangor

Er mwyn rhoi blas i chi ar seiclo o amgylch Bangor gofynnon ni i rai o'n cyd-feicwyr roi disgrifiad inni o'r llwybrau y maen nhw’n eu cymeradwyo i mewn i Fangor ac o amgylch Bangor.

Isod mae rhai o'r llwybrau y mae Clwb Seiclo Ffordd Prifysgol Bangor fel arfer yn eu reidio. Canllaw yw’r rhain o ran ble i reidio, felly dylid defnyddio disgresiwn.

Seiclo Gogledd Cymru

Mae gan Ynys Môn nifer o lwybrau seiclo cylchog, a dau lwybr seiclo cenedlaethol. Mae’r ddau lwybr yn caniatáu ichi ryfeddu at y golygfeydd gwych sydd gan Ynys Môn i'w cynnig, a chyfleoedd i weld peth o fywyd gwyllt ysblennydd yr ynys.

Mae Ymweld ag Eryri yn rhestru pob math o lwybrau seiclo ledled Gwynedd, Eryri, a Phenrhyn Llŷn i seiclwyr o bob math, gan gynnwys llwybrau beicio mynydd o'r radd flaenaf a phrofiadau seiclo pwrpasol i’r teulu

Mae gan Sir Ddinbych lawer o drysorau i seiclwyr. Mae gan Fryniau Clwyd a Mynydd Hiraethog rai o'r rhwydweithiau llwybrau ceffylau gorau yn y wlad i seiclwyr a hynny dros dirwedd o harddwch eithriadol. Ewch i Reidio Gogledd Cymru am fanylion am lwybrau seiclo ffordd hawdd, cymedrol, a chaled i’r teulu a llwybrau beicio mynydd a chysylltiadau â digwyddiadau lleol a chyfleusterau ar gyfer beiciau.

Mae gan Seiclo yng Nghonwy fynyddoedd a choedwigoedd i feicwyr mynydd, llwybrau seiclo glan y môr i deuluoedd. Y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol ar hyd Arfordir y gogledd (Llwybr Cenedlaethol 5) Mae’n cysylltu’r Rhyl, Bae Cinmel, Abergele, Bae Colwyn, Llandrillo-yn-rhos, Llandudno, a Chonwy.